Gareth Glyn

Gareth Glyn

Ganwyd Gareth Glyn ym Machynlleth ym 1951; graddiodd mewn Cerddoriaeth o Goleg Merton Rhydychen, ac mae’n dal LRAM fel Cyfansoddwr o’r Academi Gerdd Frenhinol.

Dros ddeng mlynedd ar hugain, mae wedi cyfansoddi’n helaeth dros ben mewn pob math o gyfrwng, o’r Symffoni fwyaf i’r gân leiaf, o glasurol i bop, o’r neuadd gyngerdd i’r sgrîn deledu.

Ymhlith yr enwogion roddodd berfformiadau cyntaf ei weithiau mae'r bariton byd-enwog Bryn Terfel, y gantores ifanc hynod lwyddiannus Charlotte Church, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, yr organydd Jane Watts a nifer fawr o rai eraill - gan gynnwys Jonathan Pryce, un o "ddynion drwg" ffilmiau James Bond, a hynny mewn darn i lefarydd a cherddorfa gerbron cynulleidfa fyw o filoedd o bobol a gwylwyr teledu drwy'r byd. Mae hyd yn oed Rhys Ifans, un o gewri Hollywood bellach, wedi actio'r brif ran ym mherfformiadau cynta dwy ddrama gerdd gan Gareth Glyn!

Cafodd Gareth ei ddewis i gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’r cynhyrchiadau pwysicaf i deledu a ffilm, gan gynnwys y gyfres nodedig am hanes y genedl Cymru 2000, y ffilm arloesol Madam Wen a dramáu blaenllaw megis Tywyll Heno.

Mae llawer o’i waith diweddar wedi cael ei berfformio, ei recordio a’i gynhyrchu gan y cyfansoddwr ei hun yn ei stiwdio ar ynys Môn; mae’n arbenigo ar ail-greu seiniau’r gerddorfa a’i hofferynnau gan ddefnyddio’r dulliau technolegol diweddaraf.

Mae Gareth Glyn yn byw ym Modffordd, ger Llangefni, gyda’i wraig Eleri Cwyfan. Mae ganddo ddau fab mewn oed, Peredur a Seiriol.

hafan