Gwrandewch ar bigion o weithiau Gareth Glyn!

Mae'r pigion sy'n dilyn i gyd tua 30" o hyd ac i'w clywed o fewn eiliadau ichi glicio ar y teitl. Maen nhw yn fformat RealMedia - os nad oes gynnoch chi'r fersiwn ddiweddara o RealPlayer i'w chwarae nhw, mae ar gael AM DDIM drwy glicio ar y logo islaw. Anfantais y dull yma o glywed cerddoriaeth yn syth ydy ansawdd gwael y sain; os hoffech glywed rhywbeth yn fformat *.wav, neu dderbyn enghreifftiau hwy (neu, yn wir, weithiau cyfan) ar CD,

danfonwch e-bost ata i.

Salm 150 - Côr Pontarddulais hefo Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC yn y gosodiad gorfoleddus yma i gôr meibion a cherddorfa

Morluniau Môn - cyfres o bum darlun hudolus i linynnau, ar gael ar ASV WHL2136, yn portreadu pum lleoliad ar lannau'r ynys

1. Llanddwyn

5. Moelfre

Pedair Hwiangerdd - caneuon plant i leisiau unsain a cherddorfa - yn yr enghraifft yma, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Clychau'r Gog - darn poblogaidd dros ben, sydd ar gael ar sawl CD, i gôr meibion a phiano

Addolwn Ef - dilyniant o garolau Cymreig, ar gael mewn fersiynau i gonsort pres a band pres

Carol yr Alarch - carol ddefosiynol, sy'n syml ond effeithiol, i SATB a phiano (hefyd ar gael fel unawd mewn fersiynau i lais uchel ac isel, ac i TTBB a thelyn neu biano)

Chwedl y Llyn - dilyniant i gerddorfa mewn arddull cymharol ysgafn. Hefyd ar gael ar label ASV. Dyma enghreifftiau o dri o'r symudiadau:

2. Ffoi Gefn Nos

3. Hiraeth yr Alltud

5. Duwies y Llyn

Caneuon Ionawr- i lais uchel a phiano. Mae'r dyfyniad hwn o Bwydo'r Adar

Cadernid Gwynedd - darn cystadleuaeth, ar raddfa fawr, i fand pres

Classy Classics - alawon adnabyddus o'r clasuron i leisiau unsain a cherddorfa - yn yr enghraifft yma Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Cân y Cynulliad - neb arall ond Charlotte Church yn canu'r gân gafodd ei chomisiynu ar ei chyfer i agor y Cynulliad Cymreig, unawd i lais a thelyn

I Wefr Dadeni - i denor a phiano. Mae'r dyfyniad yma, sy'n cael ei ganu gan Wynford Evans, o Eirlysiau

Eryri - cathl symffonig mewn arddull "ysgafn" - Cerddorfa Ulster sy'n perfformio yma, ond mae hefyd ar gael ar ASV WHL 2137

Agorawd Yr Wyddfa - fersiwn fyrrach o'r darn uchod; cafodd ei berfformio gynta gan Gerddorfa Gyngerdd y BBC. Eto gweler WHL 2137

Fresco - agorawd cerddorfaol mewn arddull mwy "difrif" - yn perfformio yma mae Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC

Gwylmabsant - Jane Watts ydy'r unawdydd yma yn yr agorawd dathliadol i organ a cherddorfa (Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y dyfyniad yma)

Llanrwst - cân i denor sy wedi cael ei pherffomio a'i recordio nifer fawr o weithiau; mae'n dod o'r gyfrol Llanrwst a Chaneuon eraill

Mabinogi - dilyniant i grwp siambr, yn seiliedig ar bedwar cainc yr hen chwedlau

Carol y Seren - Carol y bu llawer iawn o berfformio arni, ar gael mewn sawl fersiwn* - yn y dyfyniad yma SA a phiano

*gan gynnwys SATB a/neu TTBB gyda cherddorfa, band pres neu biano

Sonata i gitâr - gwaith llawn tri-symudiad i'r offeryn clasurol - holwch farn evenstephen!

Y Daith i'r Blaned Aflafar (The Mission of SPM-1) cyflwyniad rhyngweithiol i'r gerddorfa i blant, ond ar thema ofodol - gwaith anodd i'w ddisgrifio'n gryno - os ydach chi am fanylion danfonwch e-bost!

Symffoni - gwaith ar raddfa fawr i gerddorfa, yn cael ei berfformio yma gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae na ddau ddyfyniad:

Symffoni - dyfyniad 1

Symffoni - dyfyniad 2

Tair Salm i'r organ - dyma ran o'r Toccata; yr unawdydd yma ydy'r diweddar Christopher Dearnley, organydd Cadeirlan San Pawl

Iesu Yw - carol fawreddog gyda dewis o eiriau sy ddim yn ymwneud â'r Nadolig, ac ar gael mewn nifer o fersiynau*:

*e.e. unawd lleisiol a phiano, deuawd a phiano, SATB neu TTBB a phiano NEU organ NEU gerddorfa NEU fand pres, gyda neu heb unawdwyr.....

Peidiwch â phetruso cysylltu â mi i gael rhagor o fanylion am y darnau uchod neu unrhyw ddarn arall o'm eiddo; mi fyddwn wrth fy modd yn danfon pigion hwy o unrhyw ddarn yn fformat cliriach *.wav fel e-bost, neu ddanfon CD o weithiau cyfan drwy'r post

Rhestr fwy cyflawn o 'ngweithiau

Hafan