Cyhoeddwyr Gareth Glyn

Dyma rai o'r cwmnïau sy'n cyhoeddi fy ngweithiau:

Curiad
Amrywiaeth fawr o gerddoriaeth leisiol, offerynnol, corawl a cherddorfaol, gan gynnwys yr unawd hynod boblogaidd i denor, Llanrwst - un o'r caneuon y medrwch chi wrando arnyn nhw ar wefan ardderchog cwmni Curiad.
Cwmni Cyhoeddi Gwynn
Darnau corawl a lleisiol - yn eu plith Cadwyn, y cylch o drefniannau o alawon gwerin i SATB sy'n boblogaidd dros ben, a Seren Newydd, cantawd mewn arddull drama gerdd, yn adrodd hanes y Geni ar gân - delfrydol ar gyfer ysgolion uwchradd, ac yn rhoi cyfle i gantorion o bob oed a gallu (hyd yn oed hogia Blwyddyn 10!).
Spartan Press
Cerddoriaeth offerynnol, gan gynnwys Star Turn i amrywiaeth eang o offerynnau pres, a Pianimals,, darn i'r piano lle mae Crow yn cael ei chwarae ar y nodau duon yn unig (a chan y llaw chwith yn unig); mae Polar Bear ar y nodau gwyn, ac mae Zebra... wel, beth am alw heibio gwefan helaeth Spartan i ddarganfod yr ateb?
Adlais
Cerddoriaeth i'r delyn. Mae Triban yn ddarn sylweddol mewn tri symudiad sy wedi cael ei berfformio yn neuaddau cyngerdd mawr y byd gan delynorion o fri megis Sioned Williams. Does gan Adlais ddim gwefan ar hyn o bryd; eu cyfeiriad nhw ydy Adlais, PO Box 28, Y Fenni, Gwent, Cymru NP7 5YJ.
Llonnod
Hwn yw fy nghwmni i, sy hefyd yn cyhoeddi cryn dipyn o gerddoriaeth - corawl yn benna. Mae croeso ichi holi am ragor o fanylion drwy glicio ar enw'r cwmni.

Mae nifer o'm gweithiau ar gael ar recordiau gan y cwmnïau yma:

ASV

Sain

Laserlight

Nôl gartra

Y dudalen hon yn Saesneg - this page in English